Y Cylch Siarad

 

Sefydlwyd y “Cylch Siarad” yng Nghanolfan Cymry Llundain yn 2010 ac eleni mae’n mynd o nerth i nerth. Yn ogystal, mae cynlluniau mawr ar y gweill i gryfhau ac ehangu’r cylch yn y dyfodol.

Beth yw’r Cylch Siarad? Mae’r Cylch Siarad yn cael ei gynnal bob nos Iau yn y bar ar ôl y dosbarthiadau Cymraeg ac mae’n rhoi cyfle ardderchog i ddysgwyr o bob safon i ddefnyddio’r iaith mewn amgylchedd cyfeillgar, agored a chroesawgar. Mae siaradwyr o bob lefel yn dod, gan gynnwys dechreuwyr, pobl sy’n gloywi eu hiaith a phobl sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Bydd croeso mawr i bawb sydd eisiau siarad yn Gymraeg am awr neu ddwy. Yn arbennig mae angen pobl sy’n siarad Cymraeg yn dda i helpu’r rhai ohonon ni sy’n dysgu’r iaith o hyd. Mae’r noson yn dechrau am 7.30 yn y bar ac mae’r rheolau yn syml: Cymraeg yn gyntaf! Yn ogystal a’r cylch, os bydd diddordeb, byddwn ni’n trefnu gweithgareddau eraill i ddysgwyr, gan gynnwys clwb llyfrau, dadleuon, areithiau am themâu arbennig ac yn y blaen. Bydd rhywbeth i bawb!

Ymunwch a ni ar Grwps Gwgl trwy anfon ebost i cylchsiarad+subscribe@googlegroups.com

Anfonwch ebost i Richard Williams os ydach chi eisiau manylion pellach neu os ydach chi’n gallu helpu mewn unrhyw ffordd.

Choose your language

What's on at the Centre

  • At the Centre on 21 May, 2012
    • The Rugby Business Network

      21 May, 2012, 19:00

  • At the Centre on 22 May, 2012
    • London Welsh Chorale rehearsal

      22 May, 2012, 19:00

  • At the Centre on 23 May, 2012
    • Gwalia Male Voice Choir Rehearsal

      23 May, 2012, 19:30

  • At the Centre on 24 May, 2012
    • LWMVC rehearsal

      24 May, 2012, 19:00

    • Cylch Siarad

      24 May, 2012, 19:30

Sign up for the London Welsh Centre weekly email newsletter

Fill in the form below to receive the Centre's weekly email newsletter for a free trial period of three months. Become a member to receive the emails all year round.
* = required field

Find Us On

Twitter

  • Sailing adventure screened at LWC
    http://t.co/7np9clr6
    2012/05/14 15:07 by LinksAlpha
  • The Rugby Business Network
    http://t.co/x4MrOokk
    2012/05/13 18:04 by LinksAlpha
  • Fly the flag for LWC via @sharethis
    http://t.co/Die8PbOf
    2012/05/13 17:14 by Tweet Button
  • Good luck to the London Welsh rugby team today against Bedford Blues in the Championship Semi-Final. #londonwelsh #cymryllundain
    2012/05/13 10:34 by Twitter for iPhone
This site is protected by Comment SPAM Wiper.