Chi ‘di clywed am ‘Carolau Llangollen’, chi ‘di clywed am ‘Carolau Llandudno’, ond ydych chi’n barod am Carolau Cabarela?
Dewch i gyd-ganu, i gyd-chwerthin a chyd-synnu ar broblemau bywyd y Bugeiliaid Budur: Y Divas a’r Diceds.
Ymunwch yn Hwyl yr Wyl gyda Herod ei hun: Hywel Pitts
A’r cyfan i gyflwyniadau nefolaidd ein angylion o uffern: Sorela. (Pam cael un Gabriel pan allwch chi gael tair?!)
Chi meddwl fod y sach yn ddigon llawn?!
This is a Welsh language event. Age guide:16+
